top of page
illustration_no_clouds.jpg

SGWRS YR WYTHNOS… JENNIFER JONES YN HOLI SYR IFAN AB OWEN EDWARDS

Ar gael o 20fed o Fedi ymlaen

Sgyrsiau Hanes

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. Ers hynny mae dros 4 miliwn o blant a phobol ifanc wedi bod yn aelodau o’r Urdd, ac wedi elwa o brofiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol, gwirfoddol a phrentisiaethau, i gyd oll drwy gyfrwng y Gymraeg. A hithau bron yn gan mlynedd yn ddiweddarach, ymunwch â Jennifer Jones, Gohebydd newyddion BBC Wales a Chyflwynydd BBC Radio Cymru wrth iddi holi’r dyn tu ôl i un o sefydliadau ieuenctid mwyaf Ewrop. Mi fydd Syr Ifan ab Owen Edwards yn teithio ysgolion ledled Cymru mewn ‘sioe-un-person’ Mewn Cymeriad, sy’n cychwyn mis Ionawr 2022.

Addas ar gyfer CA2

Supported by:

Urdd Gobaith Cymru a Mewn Cymeriad

logo_Eng.png
bottom of page